Mae’r stori hon hefyd ar gael yn Saesneg – cliciwch yma i’w darllen.
Mae arolwg newydd, a gynhaliwyd gan Survation ar ran Prifysgol Aberystwyth a Newyddion S4C, yn gosod Reform UK ychydig ar y blaen i Blaid Cymru o ran bwriad pleidleisio cyn etholiad y Senedd.
Mae’r canlyniadau’n awgrymu ras agos, gyda Reform UK ar 30% a Phlaid Cymru ar 28%. Mae Llafur yn dilyn ar 15%, tra bod y Ceidwadwyr a’r Blaid Werdd ar 10%, y Democratiaid Rhyddfrydol ar 4%, a 4% yn dewis plaid arall.

Dywedodd Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth, a arweiniodd y dadansoddiad o’r arolwg barn:
“Mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu tirwedd wleidyddol hynod gystadleuol cyn etholiad y Senedd, gyda dwy blaid ar hyn o bryd yn arwain o ran bwriad pleidleisio. Er bod Reform UK fymryn ar y blaen i Blaid Cymru, mae’n glir ei bod hi’n anhygoel o agos rhwng y ddwy blaid. Ar sail arolwg mor agos, mae’n arbennig o anodd rhagweld pa blaid fydd yn ennill y nifer fwyaf o seddi yn y Senedd. Mae’r chweched sedd ym mhob etholaeth yn debygol o gael ei phenderfynu gan nifer fechan iawn o bleidleisiau. Mae hi wir yn y fantol.
“Mae hi hefyd yn drawiadol bod yr arolwg hwn yn dangos sut mae cefnogaeth i’r ddwy blaid a enillodd y nifer fwyaf o seddi yn etholiadau diwethaf y Senedd, Llafur a’r Ceidwadwyr, wedi gostwng mor bell y tu ôl i’r ceffylau blaen. Os yw’r canlyniadau hyn yn cael eu hailadrodd ar 7 Mai, fe fyddan nhw’n cynrychioli newid hanesyddol yn ein gwleidyddiaeth ni.”

Mae tua dwy ran o dair o bleidleiswyr yn nodi cost byw ar 67% a’r GIG a gofal iechyd ar 64% fel y ffactorau pwysicaf sy’n dylanwadu ar eu pleidlais. Mae mewnfudo ar 39% a’r economi yn fwy cyffredinol ar 31% hefyd yn cael eu rhestru’n uchel, tra bod tai, newid hinsawdd, trosedd ac addysg yn cael eu dewis gan nifer llai o ymatebwyr.
Mae’r arolwg hefyd yn canfod bod gan y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol, sef 60%, a bod ychydig dros hanner wedi bod yn dilyn yr ymgyrch etholiadol i ryw raddau o leiaf.
Mae ymgysylltiad yn amrywio’n sylweddol yn ôl oedran, gyda phobl hŷn yn fwy tebygol o fod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth na phobl iau. Ymhlith y rhai 65 oed a hŷn, mae mwy na dwy ran o dair yn dweud eu bod wedi rhoi llawer o sylw neu rywfaint o sylw i’r ymgyrch etholiadol, o’i gymharu â llai na hanner y rhai 16 i 24 oed.
Mae 20% o’r ymatebwyr yn dweud mai Plaid Cymru sy’n cynnal yr ymgyrch etholiadol orau, gyda Reform UK yn dilyn yn agos ar 18%, tra bod 39% yn dweud nad ydynt yn gwybod pa blaid sy’n cynnal yr ymgyrch orau.
Pan ofynnwyd pa blaid sy’n cynrychioli buddiannau Cymru orau, mae Plaid Cymru ar y blaen ar 34%, ac yna Reform UK ar 16%. Fodd bynnag, mae mwy na chwarter yr ymatebwyr yn dweud nad oes yr un o’r pleidiau’n cynrychioli buddiannau Cymru orau neu nad ydynt yn gwybod.
Ychwanegodd Dr Elias:
“Mae’r data hefyd yn dangos bod lefelau ymgysylltu â’r ymgyrch yn amrywio’n sylweddol, yn enwedig yn ôl oedran, gyda llawer o bleidleiswyr iau yn llai ymgysylltiedig na grwpiau hŷn.
“Mae’r canlyniadau hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd pryderon bob dydd wrth lunio blaenoriaethau pleidleiswyr, yn enwedig cost byw a phwysau ar y GIG. Ar yr un pryd, mae bwlch amlwg rhwng bwriad pleidleisio a chanfyddiadau ynglŷn â pha blaid sy’n cynrychioli buddiannau Cymru orau, gan awgrymu bod pleidleiswyr yn tynnu ar amrywiaeth o ystyriaethau wrth bleidleisio.”
Cynhaliwyd yr arolwg ar sampl gynrychioliadol o 1,065 o oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru, a holwyd rhwng 17 a 23 Ebrill 2026 drwy banel ar-lein. Pwysoliwyd y canlyniadau i adlewyrchu proffil poblogaeth Cymru. Mae ffigurau bwriad pleidleisio wedi’u pwysoli yn ôl tebygolrwydd yr ymatebwyr o bleidleisio.
Bydd y canfyddiadau’n cael eu trafod ar 30 Ebrill rhwng 17:15 a 18:30 ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais. Bydd y digwyddiad yn edrych ar newidiadau yn y ffordd y mae pobl yn pleidleisio a’r data arolygon barn diweddaraf, gan gynnwys canfyddiadau o Astudiaeth Etholiad Cymru, prosiect ymchwil sy’n edrych ar agweddau ac ymddygiad gwleidyddol yng Nghymru. Bydd hefyd yn ystyried yr hyn y mae’r canfyddiadau’n ei olygu i Gymru ar ôl 7 Mai.
The post Arolwg newydd yn dangos Reform UK ychydig ar y blaen i Blaid Cymru yn etholiad y Senedd appeared first on Wales 247.


