Yn hanes tywydd Prydain, mae un storm yn dod i’r amlwg fel sbardun ar gyfer newid – Storm y Royal Charter yn 1859. Chwaraeodd y dymestl ddinistriol hon ran ganolog yn sefydlu’r rhagolygon i forwyr (sef y shipping forecast) ac mae wedi cael effaith hirhoedlog ar ragolygon tywydd y Deyrnas Gyfunol (DG) a thu hwnt.
Chwythodd y gwyntoedd ar gyflymder o 100 milltir yr awr rhwng Hydref 25 a 26 y flwyddyn honno – yn gynt nag unrhyw wyntoedd a gofnodwyd yn flaenorol ar Afon Merswy yng ngogledd-orllewin Lloegr. Fe’i hystyrir i fod y storm mwyaf difrifol y 19eg ganrif ym Môr Iwerddon. Bu farw mwy na 800 o bobl a suddodd neu difrodwyd yn ddifrifol mwy na 200 o longau gan y storm. Ond, bu hefyd yn sbardun i sefydlu’r rhagolygon i forwyr.
Enwyd y storm ar ôl yr enwocaf o’r llongau a gollwyd i’r tonnau, sef llong ager a hwylio o’r enw’r Royal Charter. Ar ddiwedd deufis o fordaith o Melbourne yn Awstralia, roedd y Royal Charter yn hwylio tuag at Lerpwl gyda’i chargo gwerthfawr o aur. Cafodd y llong ei dal yng nghynddaredd y storm oddi ar arfordir Ynys Môn.
Er gwaethaf ymdrechion dewr y criw i angori’r llong a thorri ei hwyliau, chwythwyd y Royal Charter i’r creigiau yn ystod oriau mân Hydref 26. Gyda chymorth y pentrefwyr cyfagos, llwyddwyd i achub tua 40 o deithwyr o’r llong. Roedd teithwyr eraill wedi ceisio nofio i’r lan ond roedd pwysau’r aur yn eu pocedi’n ormod a buont foddi. Holltodd y llong yn ddau ymhen ychydig a hawliodd y tonnau fywydau mwy na 450 o deithwyr a chriw, gan gynnwys yr holl fenywod a phlant.
Roedd y storm ym mhenawdau’r papurau newyddion o ganlyniad i ddifrifoldeb y digwyddiad. Daeth hyd yn oed i sylw Charles Dickens, a oedd yn gweithio fel newyddiadurwr yn Llundain ar y pryd. Ymwelodd â safle’r llongddrylliad yn fuan ar ôl y storm.
Y rhagolygon i forwyr a’r Swyddfa Dywydd
Casglwyd arsylwadau o’r tywydd o amgylch arfordir Prydain ers 1854 gan rhan o Swyddfa Dywydd y DG (neu’r Met Office) a elwir bryd hynny yn Adran Feteorolegol y Bwrdd Masnach. Fodd bynnag, tynnodd storm y Royal Charter sylw at yr angen am ragolygon tywydd mwy cywir a system rhybuddio storm genedlaethol.
Bu’r Is-lyngesydd Robert Fitzroy, sef sylfaenydd y Swyddfa Dywydd, yn lobïo dros greu system rhybuddio ar gyfer stormydd ers haf 1859. Yn dilyn storm y Royal Charter, roedd Fitzroy wedi gallu dangos y gellid bod wedi ei ragweld.
Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno, cymeradwywyd y system rhybuddio stormydd newydd a chyhoeddwyd y rhybudd cyntaf ym mis Chwefror 1861. Anfonwyd hwn trwy delegraff i’r trefi harbwr, a oedd wedyn yn codi conau a drymiau ar fast llong i rybuddio llongau mewn harbyrau ac ar hyd yr arfordir o’r storm oedd ar y ffordd.
Gwasanaeth rhybuddio am stormydd y DG – a gafodd ei adnabod yn ddiweddarach fel y rhagolygon i forwyr (neu’r shipping forecast) – yw’r gwasanaeth rhagolygon cenedlaethol hynaf yn y byd. Heddiw, mae’r Swyddfa Dywydd yn darparu rhagolygon i forwyr ar ran Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau, gan gyhoeddi rhagolwg bedair gwaith y dydd ar gyfer y 31 ardal o fôr o amgylch Ynysoedd Prydain.
Effaith hirdymor
Yn ogystal â’i hetifeddiaeth feteorolegol, mae effeithiau’r storm i’w gweld o amgylch arfordir Cymru hyd heddiw. Ar Ynys Môn, mae beddau y rhai a fu farw yn y llongddrylliad i’w gweld mewn llawer o eglwysi ar hyd yr arfordir. Mae darnau o aur hefyd wedi eu golchi i’r lan yn ddiweddar.
Ymhellach i’r de, yng Nghwmyreglwys, Sir Benfro, saif gweddillion eglwys Sant Brynach, a ddinistriwyd yn rhannol gan y storm.
Ers 1859, mae’r Swyddfa Dywydd wedi gwneud datblygiadau aruthrol ym maes meteoroleg. Ym mis Awst 1861, argraffwyd rhagolwg tywydd am y tro cyntaf yn The Times, gan ddarlledu ar y radio ym 1922 ac fe’u gwelwyd ar y teledu am y tro cyntaf ym 1936.
Fesul cam, mae’r Swyddfa Dywydd wedi arloesi gyda thechnolegau newydd trwy lansio lloeren feteorolegol gynta’r byd ym 1960 a defnyddio’r rhagolwg cyntaf gan gyfrifiadur ym 1965. Mae wedi parhau i fuddsoddi mewn uwchgyfrifiaduron o’r radd flaenaf er mwyn gwella rhagolygon hinsawdd a thywydd eithafol ers hynny.
Heddiw, mae’r Swyddfa Dywydd yn awdurdod a gydnabyddir yn fyd-eang ym maes meteoroleg a gwyddor hinsawdd. Mae ei harbenigedd yn amhrisiadwy i nifer o sectorau, o hedfanaeth ac amaethyddiaeth i wasanaethau brys a chynllunio seilwaith. Mae’r Swyddfa Dywydd bellach yn gyfrifol am ddarparu’r Gwasanaeth Rhybuddion Tywydd Eithafol Cenedlaethol (neu’r National Severe Weather Warning Service), sy’n cynnwys rhybuddion am wynt, glaw, stormydd mellt, mellt, rhew, niwl, eira a gwres eithafol.
Trwy ymroddiad y Swyddfa Dywydd i ymchwil wyddonol a chywirdeb rhagolygon, mae’r DG a’r byd wedi elwa o well rhagolygon tywydd, sy’n arwain at gymdeithas sy’n paratoi’n well ar gyfer digwyddiadau tywydd eithafol. Mae gwaddol storm y Royal Charter yn parhau wrth i’r Swyddfa Dywydd ddarparu gwasanaethau tywydd a hinsawdd hanfodol, gan ddiogelu bywydau a bywoliaethau mewn hinsawdd sy’n newid yn barhaus.
Cerys Jones has previously received funding from the AHRC, EU's Ireland-Wales Programme 2014-2020, and the Coleg Cymraeg Cenedlaethol.