Chwefror 11 1924, ar fwrdd yr RMS Cedric: Saw Statue of Liberty glowing in the sunlight. Bitterly cold wind, bright sunshine. At lunch, a press man came to me and said: ‘Mrs Griffiths, I am from the press.’ ‘I have nothing to say,’ I said. ‘Oh!’ said he, ‘we know your story of the Women of Wales movement, we want only your photos – will you come to the top deck when you have finished?’ So [we] trotted up to the top deck first class, where we found four burly photographers awaiting us.
Mawrth 12 1924, Los Angeles: A letter was handed to me as I left the station – an anonymous letter, telling us to get out of the United States.
Gan mlynedd yn ôl, teithiodd Annie Hughes Griffiths o Gymru i’r Unol Daleithiau gan ymweld â golygfeydd ysblennydd o Efrog Newydd i Washington DC, ac o San Francisco i Los Angeles. Ond er bod dyddiadur ei thaith yn disgrifio rhai atyniadau y byddai rhywun yn disgwyl i’r teithiwr talog ymweld â nhw – Rhaeadrau Niagara, y Grand Canyon, Pont y Glwyd Aur (neu’r Golden Gate Bridge) a Chofeb Lincoln – nid gwyliau cyffredin oedd y siwrnai hon, ac nid teithwraig gyfffredin oedd Annie Hughes Griffiths.
Roedd hi’n rhan o ddirprwyaeth o bedair Cymraes oedd â’r nod o gludo’r hyn a ddisgrifiodd y South Wales Gazette fel “bwystfil o ddeiseb” (“monster petition”) un a fyddai’n ymestyn dros saith milltir pe bai’r llofnodion wedi eu gosod ochr yn ochr. Apêl oddi wrth fenywod Cymru at fenywod America am heddwch byd-eang oedd y ddeiseb hon.
Roedd y siwrnai i’r UDA yn uchafbwynt ymgyrch chwe mis o hyd a oedd wedi gweld mwy na 400 o drefnwyr lleol yn mynd o ddrws i ddrws yn casglu llofnodion mewn trefi a phentrefi ledled Cymru. Rhyngddynt casglwyd 390,296 llofnod – camp a fyddai’n drawiadol hyd yn oed heddiw, mewn oes lle mae’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu ein cysylltu ni ar amrantiad â phobl o bob cwr o’r byd. Ond digwyddodd hyn gan mlynedd yn ôl, mewn oes lle’r oedd car a llinell ffôn eto’n destun rhyfeddod.
Read more: A century ago, the women of Wales made an audacious appeal for world peace – this is their story
Cyflwynodd Hughes Griffiths a’i chyd-genhadon heddwch (â phawb wedi talu drostyn nhw eu hunain am y daith dros y dŵr) eu deiseb i brif sefydliadau menywod America, ac yn ddiweddarach i arlywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge, yn y Tŷ Gwyn. Ond er bod llawer yn croesawu’r menywod arloesol hyn o ochr draw Môr yr Iwerydd, roedd eraill – gan gynnwys y llythyrwr dienw y mae Hughes Griffiths yn ei ddisgrifio yn ei dyddiadur – yn gwrthwynebu’n chwyrn y syniad bod yr Unol Daleithiau yn cymryd rhan mewn mentrau rhyngwladol, hyd yn oed os oedd y fenter honno’n ceisio atal rhyfel.
Er gwaethaf y sylw a ddenodd y ddeiseb yn ei dydd ar naill ochr i’r cefnfor – a chreu rhwydweithiau sefydliadol a phersonol hirhoedlog rhwng ymgyrchwyr heddwch Cymru ac America – pylodd hanes yr ymdrech anghyffredin hon o’n cof-ar-cyd. Hyd yn oed yng Nghymru, nid yw’n ymddangos yn y llyfrau hanes, ac nid yw chwaith yn cael ei ddysgu yn yr ysgolion.
Rydyn ni’n olygyddion llyfr newydd Yr Apêl-The Appeal, sef cyfrol sy’n adrodd yr hanes coll hwn diolch i ymchwil fanwl gan awduron y penodau a’u gwaith yn cribo drwy adroddiadau mewn papurau newydd a chofnodion cyhoeddus yr 1920au, a darllen drwy ddyddiaduron a llythyron y menywod hynny (a rhai dynion) a ddaeth â maen y ddeiseb i’r wal.
Roedd digon i wahanu’r miloedd o fenywod o Gymru a lofnododd y ddeiseb: iaith, crefydd, cysylltiadau gwleidyddol, ac amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd. Ond roedd y gwahaniaethau hyn yn ddibwys o’u cymharu â’r hyn a oedd yn eu huno: breuddwyd am fyd di-ryfel.
Cynllunio’r ddeiseb
Nid oedd y cysylltiad rhwng menywod ac achos heddwch yn beth newydd. Y ddolen hon oedd conglfaen mudiad rhyngwladol heddwch y menywod yn y cyfnod cyn y rhyfel byd cyntaf. Mudiad oedd hwn a gysylltai heddwch â’r ymgais i ymestyn hawliau sifil i fenywod – yn enwedig, ond nid yn unig, yr hawl i bleidleisio. Y rhesymeg y tu ôl i hyn oedd: pe byddai menywod yn gallu chwarae mwy o ran yn y sffêr cyhoeddus ac yn y broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol, efallai y byddai dulliau heddychlon o ddatrys anghydfod yn cael mwy o ystyriaeth.
Lladdwyd tua 40,000 o filwyr o Gymru yn y rhyfel byd cyntaf, a dychwelodd nifer o’r 230,000 o’u cyd-wladwyr o faes y gad gyda siel-sioc (PTSD, neu anhwylder straen wedi sioc) ac anafiadau a fyddai’n newid eu bywydau. Yn wyneb effeithiau trychinebus y rhyfel ar deuluoedd a chymunedau Cymru, lledodd penderfyniad di-droi’n-ôl na ddylai’r fath gyflafan gael ei ganiatáu fyth eto.
I rai, yr ateb oedd ymroi i heddychiaeth. Chwiliodd eraill am atebion mewn pleidiau gwleidyddol: profodd y blaid Lafur yng Nghymru gefnogaeth a ddyblodd fwy neu lai y nifer o ASau a anfonwyd i’r Senedd yn Llundain rhwng 1918 ac 1922, gan gynnwys sawl un a oedd yn ymgyrchwyr yn erbyn rhyfel.
Ar yr un pryd, roedd pobl yn cydnabod yr angen dirfawr am ryw fath o ddull sefydliadol a allai ddatrys anghydfod rhyngwladol. Roedd angen sefydliad a allai dynnu cenhedloedd ynghyd er mwyn setlo eu dadleuon o gylch bwrdd negodi yn hytrach nag yn y ffosydd a’r meysydd cad. Roedd sefydliad newydd, Cynghrair y Cenhedloedd, yn cynnig gobaith o’r fath – gobaith o allu rhoi dodrefn heddwch yn eu lle.
Wedi ei chreu gan Gytundeb Versailles a ddaeth â diwedd swyddogol i’r rhyfel byd cyntaf, y weledigaeth y tu ôl i Gynghrair y Cenhedloedd (1920-1946) oedd cynnig ffordd ymarferol o atal rhyfel yn y dyfodol. Derbyniodd groeso brwd yng Nghymru, gan gynnwys gan David, Gwendoline a Margaret Davies, brawd a dwy chwaer â phrofiad personol o erchyllterau rhyfel – David fel swyddog, Gwendoline a Margaret fel nyrsys gwirfoddol mewn ysbyty maes yn Ffrainc.
Credai’r tri ym mhotensial y gynghrair i drawsnewid gwleidyddiaeth fyd-eang. A, diolch i’r cyfoeth enfawr yr oedden nhw wedi ei etifeddu gan eu tad-cu, y diwydiannwr, David Davies, Llandinam, roedden nhw mewn sefyllfa i gynnig cymorth ymarferol i gefnogi’r ymdrechion i wireddu’r potensial hwnnw. Yn 1919, noddon nhw gadair gynta’r byd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Dair blynedd wedi hynny, gyda rhodd gan David Davies (y mab) sicrhawyd dyfodol hir-dymor i gangen Cymru o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd – o ran ei ymroddiad i heddwch, hwn oedd y corff mwyaf dylanwadol ymhlith cymdeithasau dinesig Prydain yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
Ond tra bo’r gwaith hwn yn codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i amcanion y gynghrair yng Nghymru, roedd ar yr uchelgais fyd-eang angen ymroddiad gweithredol gan holl genhedloedd y byd – fel arall ni fyddai fyth yn datblygu y tu hwnt i rethreg a breuddwyd am weld dyfodol mwy heddychlon. Ac o’r cychwyn, roedd llywodraethau rhai cenhedloedd yn gyndyn o ymuno – gan gynnwys y genedl fwyaf pwerus ohonyn nhw i gyd, yr Unol Daleithiau.
Casglu’r llofnodion
In some instances, three and four visits had been made to the same houses before all the signatures were secured. With very few exceptions, the lady canvassers were very well received. (Adroddiad papur newydd lleol, Maesteg – Rhagfyr 1923)
Roedd Gwilym Davies, a oedd wedi ymddeol o fod yn weinidog gyda’r Bedyddwyr ac a oedd yn gyfarwyddwr anrhydeddus Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd, yn ŵr o weledigaeth – dyn a oedd nid yn unig wedi ymrwymo i achos heddwch, ond a oedd â dawn creu dulliau newydd a dengar o ddod â mater heddwch i sylw’r cyhoedd ehangach.
Yn 1922, awgrymodd y dylai pobl ifanc Cymru gyfansoddi neges “heddwch ac ewyllys da” a defnyddio technoleg newydd y radio i’w darlledu i’w cyfoedion ledled y byd. Cydiwyd yn ei awgrym a dyma ddechrau ar draddodiad sy’n parhau hyd heddiw, bellach o dan arweiniad Urdd Gobaith Cymru.
Y flwyddyn ganlynol, Mawrth 7 1923, ysgrifennodd Davies at Mary Ellis, cyd-ymgyrchydd dros heddwch a’r ail wraig erioed i gael ei phenodi’n arolygydd ysgolion gan Adran Addysg Cymru. Yn llythyr Davies roedd awgrym a ymddangosai’n dwyllodrus o syml:
Would it be possible for the Women of Wales to approach the Women of America, and tell them frankly of their concern for the future of civilisation?
Erbyn Mai 1923, roedd cynnig Davies wedi ei fabwysiadu’n ffurfiol gan Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd, a lluniwyd pwyllgor gwaith ar unwaith. Ni allai’r amcan fod wedi bod yn un mwy uchelgeisiol: creu heddwch byd eang; eto i gyd, roedd eu cynllun yn un ymarferol: bydden nhw’n galw ar fenywod yr UD i berswadio eu harweinwyr i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.
Mae’r erthygl hon yn rhan o Conversation Insights
Mae tîm Insights yn cynhyrchu newyddiaduraeth ffurf hir sy’n deillio o ymchwil rhyngddisgyblaethol. Mae’r tîm yn gweithio gydag academyddion o wahanol gefndiroedd sydd wedi bod yn gweithio ar brosiectau sy’n ceisio ymafael â heriau cymdeithasol a gwyddonol.
Bydden nhw’n cyrchu pob menyw yng Nghymru dros 18 oed, bydden nhw’n esbonio’r amcanion ac yna’n cynnig cyfle iddyn nhw gefnogi’r ddeiseb drwy dorri eu henwau arni. Bydden nhw’n ennill cefnogaeth cymaint o gefnogwyr a hyrwyddwyr â phosib er mwyn gallu cyflawni’r gorchwyl enfawr hwn – a chyrraedd y llawer ardal wledig a phellennig yn ogystal â’r trefi a’r pentrefi ledled Cymru.
Rhaid cofio mai dim ond dwy drefnyddes gyflogedig, sef Mary Ellen Pritchard ac Ethel Elizabeth Poole, a oruchwyliodd y prosiect cyfan, y naill yng ngogledd Cymru a’r llall yn y de. Gweddw cyn-faer Pwllheli oedd Pritchard, a ystyriai’r gwaith fel “galwad gan Dduw”. Roedd gan Poole, a oedd yn ferch i filwr, ysgogiad mwy personol i weithio dros heddwch rhyngwladol: lladdwyd ei brawd yn Ffrainc yn 1916 ac yntau’n ddim ond 26 mlwydd oed.
Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus i ledaenu’r gair am yr ymgyrch cyn dechrau ar y canfasio o ddrws i ddrws. Siaradodd Pritchard a Poole mewn llawer o’r cyfarfodydd hyn, a hefyd Gwilym Davies ac Ellis. Yr argraff a geir mewn adroddiadau cyhoeddus a phersonol oedd bod llawer o frwdfrydedd yn y cyfarfodydd hyn, eto i gyd mae’r adroddiad papur newydd hwn o gyfarfod yn Nhreffynnon yn awgrymu bod peth drwgdeimlad yn dal i fod tuag at y syniad o fenywod yn ymgyrchu, a hynny’n dilyn y frwydr dros hawl menywod i bleidleisio:
Mr H.T. Roberts said that at one time he had been much opposed to women’s suffrage, but now he saw how wrong he had been. Here was a question in which the women of Wales had more right to say anything than anyone else.
Argraffwyd y miloedd o daflenni papur a ddefnyddiwyd gan y trefnyddion i gasglu’r llofnodion unigol gyda geiriau’r apêl yn Saesneg neu’n Gymraeg, fel bod menywod yn gallu ei darllen drostyn nhw eu hunain cyn penderfynu a oedden nhw am ychwanegu eu llofnodion arni – ac yn achos y menywod anllythrennog, darllenwyd y datganiad iddynt. Roedd y geiriau’n cynnwys yr alwad hon:
Nid amcanion gwleidyddol sydd wrth wraidd ein hymdrech. Siarad yr ydym fel Merched Cymru – plant i genedl na fynn gadw dig tuag at na gwlad na phobl, eithr sydd â’i dyhead am ddyfod dydd cydweithrediad ac ewyllys da. Hiraethwn am y bore pan na throir at y cleddyf am ddedfryd yn helyntion y cenhedloedd; a theimlwn y prysurir gwawr yr Heddwch a bery pe bai’n bosibl i’r America gymeryd ei lle yng Nghyngor Cynhrair y Cenhedloedd.
Byddai’n rhaid i drefnyddion y ddeiseb gerdded am filltiroedd, weithiau drwy’r gwynt a’r glaw, i sicrhau na fyddai unrhyw dŷ yn eu hardal yn cael ei esgeuluso. Roedd y tywydd ym mis Tachwedd 1923, adeg casglu llawer o’r llofnodion, yn arbennig o stormus yn ôl pob sôn, ac mae ôl glaw ar rai o’r taflenni, a hefyd staeniau inc ac olion bysedd. Fel y byddai Annie Hughes Griffiths yn esbonio’n nes ymlaen wrth ei chynulleidfa yn America:
There are forms smudged with ink because they were taken from house to house in the rain. There are forms which are not so clear as we should like them to be, but they were handled from door to door, and there are signature forms which the canvassers took out to lonely places, where the signatures were obtained after a walk of a dozen miles.
Mae un stori ddirdynnol am ddwy gymdoges, y ddwy yn byw mewn cryn dlodi, yn rhoi eu harian prin at ei gilydd i brynu ysgrifbin a photyn inc ar y cyd fel eu bod yn barod pan ddôi’r ddeiseb at eu drws.
Roedd llawer o’r menywod a’i llofnododd wedi colli anwyliaid yn y rhyfel byd cyntaf. Lladdwyd mab Julia Ann Heywood, Sir Fôn, ar y Ffrynt Gorllewinol yn 1916. Roedd brawd Jennett Bragg, Porthcawl, ymhlith y 570 a foddwyd pan suddwyd y llong ryfel Brydeinig HMS Goliath yn y Dardanelles yn 1915. Lladdwyd dau fab Lucy Dickenson, Aberyskir Court, Aberhonddu, o fewn ychydig wythnosau i’w gilydd yn 1918.
Erbyn diwedd Ionawr 1924 roedd y cyfnod canfasio am gefnogaeth wedi dod i ben ac roedd 390,290 o lofnodion wedi eu casglu. Rhoddwyd y miloedd o daflenni â’r llofnodion arnynt yn ofalus mewn cist dderw a luniwyd at y swydd. Rhoddwyd dau gopi o destun yr apêl mewn caligraffeg oreuraid, gain rhwng cloriau o ledr Moroco. Byddai un copi’n mynd i’r Unol Daleithiau ynghyd â thaflenni’r ddeiseb. Byddai’r copi arall yn aros yng Nghymru.
Cludo’r ddeiseb i America
Roedd y cynllunio a’r paratoi ar gyfer y daith i’r UD wedi cychwyn hyd yn oed cyn i’r apêl gael ei mabwysiadu a hynny o dan arweiniad Mary Ellis, a dreuliodd fisoedd yn cyfnewid llythyron ag arweinwyr mudiad heddwch menywod America. Yn Rhagfyr 1923, aeth i Efrog Newydd i fraenaru’r tir ar gyfer aelodau eraill y ddirprwyaeth o Gymru a fyddai’n ei dilyn hi ym mis Chwefror.
Yn Efrog Newydd, cyfarfu Ellis â rhai o fenywod enwocaf ymgyrchoedd y menywod o blaid newid cymdeithasol ac economaidd: Harriet Burton Laidlaw, Ruth Morgan, Carrie Chapman Catt ac Eleanor Roosevelt. Roedd pob un ohonyn nhw wedi hogi ei sgiliau eiriolaeth yn ystod y frwydr hir am etholfraint y menwyod, a enillwyd (yn rhannol) yn 1920 pan gafwyd cadarnhad o’r 19eg Diwygiad i Gyfansoddiad yr UD. Erbyn 1924, roedden nhw’n sianelu eu hymdrechion o blaid heddwch rhyngwladol.
Diolch i’r ohebiaeth rhwng Ellis a Gwilym Davies, mae eu hargraffiadau hi o’r cymeriadau blaenllaw hyn yn hanes America ar gof a chadw. Wedi cyfarfod â Catt, dywedodd:
It would have done you good to see the wonderful light on Mrs Catt’s face as I told her simply what our little message meant … She was absolutely thrilled with the story of our memorial.
Ond Laidlaw, trefnyddes heb ei hail ac un â chysylltiadau pellgyrhaeddol o fewn mudiad menywod America, a brofodd i fod y ddolen fwyaf gwerthfawr i Ellis. Sicrhaodd fod dwsinau o gymdeithasau a sefydliadau menywod yn rhoi eu cefnogaeth i apêl y menywod o Gymru. Laidlaw hefyd oedd yr un a drefnodd i’r ddirprwyaeth o Gymru gael derbyniad gan arlywydd yr UD yn y Tŷ Gwyn – byddai Ellis yn disgrifio Laidlaw maes o law fel “dewines deg” y ddeiseb (neu “fairy godmother” o ddefnyddio’r union eiriau).
Ar Chwefror 2, aeth gweddill y ddirprwyaeth o Gymru ar y trên yng ngorsaf Euston, Llundain, gan anelu at Lerpwl, gyda thyrfa wedi ymgasglu ar y platfform i ddymuno’n dda iddynt, a llond eu côl o delegramau yn cynnwys un gan y cyn brif weinidog, David Lloyd George.
Yr un a ddewiswyd i arwain y ddirprwyaeth oedd Annie Hughes Griffiths (a adwaenid yn ôl yr arfer bryd hynny fel Mrs Peter Hughes Griffiths); roedd hi’n gymeriad carismataidd, gyda dawn siarad cyhoeddus ac yn gallu cyfathrebu’n rhwydd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn gadeirydd Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd a llywydd pwyllgor menywod yr undeb, roedd Hughes Griffiths eisoes yn adnabyddus yng Nghymru fel un a gefnogai sawl agwedd ar fywyd diwylliannol Cymru, gan gynnwys ei gwaith yn cofnodi alawon gwerin. Roedd hefyd ganddi gysylltiadau da yng nghylchoedd gwleidyddol Cymru, diolch yn rhannol i’w gŵr cyntaf, Thomas Edward Ellis, a fu’n aelod seneddol dros y blaid Ryddfrydol.
Aelod ieuengaf y ddirprwyaeth oedd Elined Prys a oedd wedi derbyn addysg prifysgol ac a oedd wedi gwneud gwaith helaeth gyda ffoaduriaid yn Rwmania ar ran Cymdeithas Gristnogol y Menywod Ifanc (YWCA) yn y cyfnod wedi’r rhyfel. Cydymaith arall oedd Gladys Melhuish Thomas o Lundain – ac er nad oedd hi’n rhan swyddogol o’r ddirprwyaeth, ymunodd â’r daith yn gwmni i’w chyfeilles, Hughes Griffiths.
Yn union cyn gadael am yr UD, rhoddodd Hughes Griffiths gyfweliad i bapur dyddiol y Western Mail gan ddisgrifio apêl menywod Cymru fel un ac iddi “great moral force when it is remembered that it is the result of a nation’s voluntary effort”. Roedd y ddeiseb, meddai, yn agor pennod newydd yn hanes hir y Cymry o weithio dros heddwch
Pa fath o groeso a gafodd y menywod
When we reached land, several leaders of American women’s organisations met us carrying bunches of daffodils, whose patches of bright yellow first caught our eyes among the throng on the landing stage. Our hostesses’ amazement was great when they saw Mrs Peter Hughes Griffiths also holding a bunch of daffodils, which had successfully traversed the Atlantic in the cold storage chamber!
Ar ôl wythnos o groesi’r Iwerydd, wele’r RMS Cedric – a fu unwaith y llong fwyaf o blith llongau mawrion y byd – yn bwrw angor yn Efrog Newydd. Roedd Ellis wedi ysgrifennu i rybuddio Hughes Griffiths a Prys y byddent yn ganolbwynt sylw wrth iddynt gyrraedd, ac y dylent ymbaratoi at gael tynnu eu llun gan ffotograffwyr y wasg Americanaidd, ei chyngor oedd: “so put on your prettiest and smile when you land!”. Yn y darnau a ddyfynnir uchod ac isod, mae Prys yn disgrifio’r olygfa ar y cei a’r croeso a oedd yn disgwyl amdanynt, mewn gohebiaeth a gyhoeddwyd mewn adroddiad yn y Western Mail:
The car which met us was ornamented with daffodils. From the moment we entered it, we were whirled away into such a succession of visits and receptions as only American hospitality knows how to shower on its guests.
Treuliodd dirpwyaeth menywod Cymru wythnos yn Efrog Newydd gan rwydweithio ag ymgyrchwyr heddwch o blith menywod America a mynd i wahanol ddigwyddiadau cymdeithasol. Rhoddodd Hughes Griffiths nifer o gyfweliadau i’r wasg ac anerchiadau – yn fwyaf nodedig Chwefror 19 1924, pan ymgasglodd mwy na 400 o fenywod yn cynrychioli mwy na 60 o fudiadau menywod America a chanddynt aelodaeth o fwy nag 16 miliwn yn ystafell ddawns fawreddog y Biltmore Hotel yng nghanol ardal Manhattan, i dystio gweld agor y gist bren a rhannu taflenni’r ddeiseb am y tro cyntaf. Yn yr araith hon, talodd hi deyrnged i’r menywod cyffredin o Gymru a oedd wedi torri eu henwau ar y ddeiseb a chefnogi’r ymgais unigryw hon i greu byd o heddwch:
There are signatures of women of 90 years of age and over – [including] one of a woman of 101 – who were very anxious that the memorial should not be sent to America without their names. Our young university women of 18 years old have signed, but there is also many a cross signifying the mark of approval of those women who in their youth were denied the blessing of education. And there are the signatures of the mothers who, in signing, remembered their boys who fell in the war and now sleep quietly in the blood-drenched fields of France – with each signature, many a tear.
Aeth llwyddiant y digwyddiad yn y Biltmore Hotel ymhell y tu hwnt i bob gobaith a disgwyl – yng ngeiriau dyddiadur Hughes Griffiths: “It was a truly thrilling gathering and one which, in our wildest flights of imagination, we have never thought of on such a comprehensive scale.” Drannoeth, ysgrifennodd Ellis lythyr at Gwilym Davies yn sôn am yr hanes:
Mrs G [Hughes Griffiths] made a great speech in every sense of the word … When she read the memorial, Miss Prys and I stood up. I felt absolutely pent up with emotion … The reception by the American women was incredible – they listened to every word and their faces were a study to see. The most wonderful thing is the absolute understanding of our own message and mission.
O Efrog Newydd aeth y ddirprwyaeth i Washington DC lle tynnwyd eu llun ar risiau’r Tŷ Gwyn a chyfarfod â’r Arlywydd Coolidge. Cafodd Hughes Griffiths addewid gan yr arlywydd y byddai’r ddeiseb a’i chist dderw arbennig yn cael eu trosglwyddo i’w cadw’n ddiogel yn sefydliad y Smithsonian, safle amgueddfa, addysg ac ymchwil genedlaethol America. Byddai’n aros yma am ganrif namyn blwyddyn heb yn wybod i genedlaethau newydd o Gymry, yn fenywod a dynion, draw dros Fôr yr Iwerydd.
Wedi cwblhau eu nod o drosglwyddo’r apêl i fenywod America, gwahanodd aelodau dirprwyaeth heddwch 1924 ac aeth pawb ei ffordd ei hun: aeth Ellis i ymweld â rhai o golegau America, aeth Prys i gysylltu yn ôl â ffrindiau o’i chyfnod yn gweithio i’r YWCA a’r Groes Goch yn Rwmania. Aeth Hughes Griffiths, yng ngwmni ei chyfeilles, Gladys Thomas, ar daith heddwch ddeufis o hyd drwy’r UD ar drên bob cam i California ac yn ôl – gan gyfarfod â grwpiau menwyod, ymgyrchwyr heddwch a chynrychiolwyr cymdeithasau Cymraeg, a rhoi mwy eto o anerchiadau a chyfweliadau i’r wasg am hanes apêl heddwch menywod Cymru.
Tua diwedd y siwrnai hon drwy America, rhoddwyd llythyr dienw i Hughes Griffiths yn dweud wrthi am “adael y wlad”. Er nad yw hi’n gwneud môr a mynydd o hyn yng nghofnod y diwrnod hwnnw yn ei dyddiadur, mae’r digwyddiad yn datgelu tipyn am gryfder y syniad o blaid America ymynysol yn y cyfnod hwn. Tra bo llawer yn America yn cefnogi’n frwd y syniad o ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd ac yn awyddus i weld yr UDA yn chwarae rhan flaenllaw yn ymdrechion y dyfodol i atal rhyfel byd-eang, roedd eraill yn beio Ewrop am lusgo eu gwlad i ryfel. Roedd y rhain yn ofni y byddai aelodaeth yr UD yn y gynghrair yn gwneud dim byd mwy nag arwain y wlad i ymryson rhyngwladol a fyddai’n gynyddol gostus a marwol.
Glaniodd y ddirprwyaeth o Gymru yng nghanol y tyndra hwn, ac roedd gan yr Americanesau a oedd wedi cynorthwyo Ellis i drefnu’r daith lawer o waith llywio’n ofalus drwy ddyfroedd cymhleth a gwleidyddol. Gwelodd Harriet Laidlaw, er enghraifft, werth cyhoeddusrwydd y syniad hwn o apêl heddwch a ddôi’n uniongyrchol o fenyw i fenyw, a bu’n ofalus iawn wrth ddisgrifio’r cyfarfod yn y Biltmore Hotel fel galwad gyffredinol am heddwch rhyngwladol drwy chwaeroliaeth, gan osgoi rhoi unrhyw bwyslais ar gysylltiad yr apêl â Chynghrair y Cenhedloedd.
Saernïodd taith menywod Cymru i America gysylltiadau hirhoedlog rhwng mudiadau heddwch menywod Cymru ac America, gan ysbrydoli creu mudiad heddwch newydd yn yr UD, sef y National Committee for the Cause and Cure of War. Hwn, yn ei dro, oedd mudiad heddwch mwyaf dylanwadol America’r 1920au. Dywedodd Carrie Chapman Catt, un o’i sefydlwyr, fod y datblygiad yn fodd o dalu’r gymwynas yn ôl, “a way of returning the compliment” i fenywod Cymru am eu hymdrechion tuag at heddwch rhyngwladol.
Ond tra bo llawer o fenwyod ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd yn parhau i gredu ym mhotensial Cynghrair y Cenhedloedd i greu heddwch, roedd y cyd-destun gwleidyddol yn yr UD yn anffafriol. Roedd achosion blaengar, gan gynnwys ymdrechion rhyngwladol i hyrwyddo heddwch, yn cael eu gweld fwyfwy fel gwaith tanseiliwyr a chwyldroadwyr, ac fe’u hystyriwyd yn ddrwgdybus gan gyrff oddi mewn i lywodraeth yr UD fel yr Adran Ryfel a’r Bureau of Investigation (sef yr FBI ymhen amser).
Nid ymaelododd yr UD â’r gynghrair, ac erbyn yr 1930au hwyr golygai’r bygythiad i heddwch o du’r Almaen Natsiaidd a phwerau eraill mai prin iawn oedd y rhai a oedd yn cydymdeimlo â’r ddadl y gallai ac y byddai cenhedloedd y byd yn gweithio gyda’i gilydd i atal gwrthdaro. Er bod llawer o’r syniadau a fu’n graidd i’r gynghrair wedi cael eu hatgyfodi yn y Cenhedloedd Unedig a chyrff a sefydliadau cysylltiedig wedi 1945, erbyn hynny roedd apêl menywod Cymru wedi mynd yn angof gan bawb ac eithrio’r rhai a fu’n ganolog i’r ymgyrch.
Ailddarganfod y ddeiseb
Un diwrnod o haf yn 2014, wrth chwilio drwy gasgliadau Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (CMRhC, sef cyn bencadlys Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd) am enghreifftiau o weithio dros heddwch yng Nghymru, daethpwyd o hyd i rywbeth a oedd y tu hwnt i ddychymyg neb.
Yn llyfrgell hardd y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd, tynnodd Martin Pollard, a oedd yn brif weithredwr CMRhC ar y pryd, feingefn tennau brown a lechai rhwng adroddiadau am ystadegau’r fasnach arfau yn y 1930au. O wneuthuriad lledr Moroco ac, yn ôl pob sôn, heb gael ei gofnodi fel rhan o gasgliad y llyfrgell, nodai’r geiriau a oedd wedi eu goreuro mewn aur ar y clawr blaen mai dyma ydoedd: “Yr Apêl oddiwrth ferched Cymru a Mynwy at Ferched Unol Daleithiau yr America … The memorial from Wales signed by 390,296 women in Wales and Monmouthshire, to the women of the United States of America.”
Y tu mewn i’r rhwymiad lledr roedd testun yr apêl, wedi ei ysgrifennu mewn caligraffeg berffaith lân yn mynegi pryder, gobaith a breuddwyd cenhedlaeth gyfan o fenywod o Gymru a oedd yn un yn eu galwad am heddwch. Yn ddiweddarach, fel hyn y cofiwyd yr eiliad gan Susie Ventris-Field, a olynodd Martin Pollard fel prif weithredwr CMRhC:
It was a breathtaking moment – spellbinding, perplexing. A Welsh peacebuilding movement of a scale beyond any in living memory. How could such a story be hidden to history? How was such a record ‘lost’ right here in plain sight? What of the signatures – did they still exist? If so, where? So many questions … how could we discover the story behind it?
Dod o hyd i destun yr apêl oedd y cam cyntaf ar daith yr ailddarganfod, taith sy’n parhau hyd heddiw. Mae sgwd o ddarganfyddiadau allweddol wedi cadw’r ymchwil i fynd rhagddi, gan gynnwys sylweddoli mai hen lun yn dangos pedair menyw ar risiau allanol adeilad, ag un ohonyn nhw’n dal yr hyn sy’n ymddangos fel llyfr mawr agored, oedd mewn gwirionedd llun y ddirprwyaeth o Gymru i Washington DC – a’r llyfr oedd copi cyfarch yr apêl yn ei rwymiad o ledr Moroco.
Wedi blynyddoedd o gydweithio o dan adain Academi Heddwch Cymru rhwng mudiadau llawr gwlad fel Heddwch Nain Mam-gu (Our Grandmothers’ Peace) a sefydliadau cenedlaethol fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’r ddeiseb bellach yn ôl yng Nghymru. Mae’r taflenni wrthi’n cael eu catalogio, eu sganio a’u huwchlwytho gan staff y Llyfrgell Genedlaethol gyda chymorth gan wirfoddolwyr, ac rydyn ni eisoes yn cael cip ar rai o’r darganfyddiadau cyffrous sy’n disgwyl amdanon ni pan fydd yr holl lofnodion wedi eu digido ac ar gael ar-lein.
Eisoes mae dycnwch gwaith trylwyr y trefnwyr a natur benderfynol eu hymgais i gyrraedd cymaint o fenywod â phosib yn amlwg iawn. Roedd trefnwyr Caerffili, er enghraifft, wedi llwyddo i gael llofnodion hyd yn oed y menywod yn yr ysbyty neilltuo lleol.
Pan fydd y llofnodion wedi eu trawsgrifio, bydd hi’n llawer haws i groes-gyfeirio enwau unigol gyda’r cyfrifiad Cymraeg a chofnodion cyhoeddus eraill, gan agor sawl trywydd ymchwil newydd i fywydau’r 390,296 o fenwyod a gredai, yng ngeiriau’r apêl, fod y “dyfodol yn llawn gobaith os y gwnawn ni, ferched y genhedlaeth hon, ein rhan.”
Ysbrydoli heddiw, ganrif yn ddiweddarach
Ganrif yn ddiweddarach, rydyn ni’n dechrau gweld darlun eglurach o’r menywod a fu’n chwarae rhan greiddiol yn y stori hon – yn arbennig y modd yr oedden nhw’n gweld dolen dynn rhwng rhoi diwedd ar y dioddef sy’n dod yn sgil rhyfel a ffurfiau eraill ar ddioddefaint, fel marchnata mewn pobl, wrth i gymaint ohonyn nhw barhau i ymwneud â’r ymgais i weld sefydliadau rhyngwladol a dulliau gweithredu rhyngwladol yn dod i fod, pethau a allai feithrin yr amgylchiadau addas i greu heddwch.
Ond efallai mai un o lwyddiannau mawr deiseb heddwch menywod Cymru oedd ei bod wedi llwyddo i fynd heibio i ffurfioldeb llywodraeth a’i swyddogion a siarad yn uniongyrchol fel ‘ymgais wirfoddol cenedl’ (“nation’s voluntary effort” a defnyddio geiriau gwreiddiol Hughes Griffiths). Roedd hon yn ymgais i greu byd mwy heddychlon yn seiliedig ar fenywod un genedl yn ymestyn at fenywod cenedl arall. Yn y weithred uniongyrchol hon, gwelwyd ymgyrch heddwch gyntaf o’i bath.
Bydd rhai, efallai, yn cwestiynu gwerth apêl menywod Cymru, gan na wireddwyd y nod o berswadio’r UD i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Byddai hynny, fodd bynnag, yn ein barn ni yn ymateb cibddall. Yn hytrach, oni ddylai ein hysbrydoli ni i ystyried o’r newydd beth allwn ni ei wneud i gefnogi mentrau heddwch heddiw?
Os, wrth bacio’r ddeiseb mewn cist, y llwyddwyd yn anfwriadol i guddio’r testament rhyfeddol hwn o waith tangnefeddwyr, ni lwyddwyd i ddiffodd yng Nghymru’r fflam a fentrai oleuo’r gobaith o weld byd di-ryfel. O bererindodau heddwch yr 1920au hwyr i’r orymdaith i Gomin Greenham yn 1981, i fentrau yn yr 21ain ganrif fel sefydlu Academi Heddwch Cymru a Heddwch ar Waith, mae’r ymgyrch yn parhau. Mae dweud y stori hon o’r newydd yn rhan o’r gwaith hwnnw.
Ganrif yn ôl galwodd yr apêl ar i fenywod y genhedlaeth hon gynorthwyo yn yr ymdrech “i drosglwyddo i’r oesau a ddêl fyd di-ryfel yn dreftadaeth dragywydd”.
Ein cyfrifoldeb ninnau yw hynny nawr.
Bydd Jennifer Mathers a Mererid Hopwood yn trafod eu llyfr newydd, Yr Apêl-The Appeal, a sut y gall deiseb heddwch menywod Cymru ysbrydoli ymgyrchwyr heddwch heddiw yng Ngŵyl y Gelli, dydd Iau, Mai 30, 2024
Nid yw'r awduron yn gweithio i, yn ymgynghori, yn berchen ar gyfranddaliadau mewn nac yn derbyn cyllid gan unrhyw gwmni neu sefydliad a fyddai'n elwa o'r erthygl hon. Nid ydynt wedi datgelu unrhyw gysylltiadau perthnasol y tu hwnt i'w penodiad academaidd.
Hoffai'r awduron gydnabod cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Hwb Y Bydoedd a Fynnwn Prifysgol Aberystwyth, sydd wedi galluogi aelodau Partnerniaeth Hawlio Heddwch i gydweithio ar ymchwilio i hanes y ddeiseb, gan sicrhau ei bod yn dychwelyd i Gymru o’r Unol Daleithiau, gan ddigideiddio'r tudalennau a datblygu rhaglen addysg ac allgymorth ledled Cymru. Maent hefyd yn cydnabod awduron penodau Yr Apêl-The Appeal: Eirlys M. Barker, Aled Eirug, Meg Elis, Jill Evans, Craig Owen, Catrin Stevens, Annie Williams a Sian Rhiannon Williams.